Page images
PDF
EPUB

RHAG GWEWYR ANWYD, SEF Y RHYNWST, A PHOB GWEWYR ANHWYL, A GWENDID YN YR YSGWYDDAU, AR

BREICHIAU, AR ESCEIRIAU.

§ 74. Cymmer y teim gwylltion, a briwa nhwy'n fân, ai berwi mewn gwaddod cwrw cadarn hyd oni bo tew, a dod wrtho yn dwymaf ag y gallo y claf ei oddef, ag arfer o hynny bum niwarnod, ag iach a fydd yn wir.

RHAG DRAEN.

§ 75. Os draen a â mewn cnawd dyn, ai mewn traed, ai mewn llaw, oni ellir ei gael allan, cymmer wraidd yr ysgall duon, neu ei dail, a gwynn wïau, a chann blawd rhyg, neu haidd, lle ni bo rhyg, a dod wrtho yn blasder, ag efe ai tynn allan.

RHAG MWYTH GRYD YR EILDDYDD.

§ 76. Cymmer ddyrnaid mawr o gribau sanffrêd, dyrnaid o frig banadl blwydd, a dyrnaid o'r geidwad, a'u golchi'n lân, a'u briwo mewn mortyr, au cymmysgu a chwrw cadarn, ai hidlo, ai yfed nawpryd or unty, a thorri a wna.

RHAG ATTAL GWNEUTHUR DWR.

§ 77. Cais hâd y banadl au malbwyo'n fân fal y cann, a dod ar y ddiod ai yfed, gwna hynny oni bot iach.

ARALL.

§ 78. Cymmer had y banadl, a chyfrif naw, ar ddegfed ei bwrw i Dduw, a malu'r hâd yn baill iawn, ai cymmeryd ar y ddiod, neu mewn mel berw yn gyfleth, ag os gwraig neu forwyn a wna hynn, ni ddaw na gwewyr na chrawn yn ei bronn fyth.

RHAG YSSIG.

§ 79. Cais waddod hen gwrw cadarn, a gwer mollt du, neu wêr gafr, a rhynion gwenith, a berw yn dda, a dod ar

gadach brethyn cyn dwymed ag a ellir ei oddef wrth y clwyf driphryd, ag iach a fydd.

DIOD RHAG Y GWST MAWR.

$ 80. Cais y fabcoll, a llysiau'r cryman, a chribau sanffrêd, a'r dderwen fendigaid, amcan o bob un, ag o lysiau'r gerwyn bedair amcan, a'u berwi mewn a'u cuddio o win gwynn, ag yfed llwnc syched bob hwyr a phob bore, a thi a gai wellhâd; yf hwn yn gyntaf o'r bore, ag yn ddiwethaf y nos, naw bore i waredu'r cylla, yna dod wrth y droed neu'r law olwythyn trwch hanner modfedd o gig eidion ffres, a hyn a'th lwyr iachâ.

RHAG CYFYNGDER A CHRYGI.

§ 81. Cais lawer o'r dderwen fendigaid, ai berwi mewn dwr ony phanno draian, yna ei hidlo; a bwrw gwraidd y melottai wedi ei asglodenu'n fan ynddo, a berw drachefn, ag arfer a hwnnw yn dwym y nos, ag yn oer y bore, ai gadw mewn grenn bridd.

RHAG PERIGLYS.

§ 82. Cymmer sign y rhuw, a chwmin, a phybyr mâl, a berw ynghyd mewn mêl, a gwna'n gyfleth, ag arfer o hwnnw nos a bore, yn gyntaf y bore ag yn ddiwethaf y nos.

RHAG Y GAFFO WR GAN WRAIG.

§ 83. Cais ebod march ceilliog a llinhad, au tymheru ynghyd, au berwi yn iwd, ai roi ar gadach lliain wrth y clwyf, ag arfer o'r plaster hynny hyd oni ddarffo iddo dynnu y llosg tân i gyd o'r clwyf, yno rhoi'r eli a berthyno wrtho, ag iach a fydd.

CLEFYD YR ARCH.

$ 84. Cais ronell pysgod eog, a sych yn araf, a gwna'n bylor, a dod ar gwrw iddei yfed, a iach a fyddi yn wir.

RHAG BYDDARI.

85. Cymmer wiail o brenn llwyfi, a dod ar y marwor, a derbyn y dwr a ddel o'r gwiail mewn llestr glân, a chais saem llysowen ddu, a chymaint o fel, a chymaint o sudd cribau sanffrêd, au cymysgu, au rhoi yn y clust, ai ystopio a gwlan o aflach oen du, a iach a fydd yn wir.

RHAG MAGFA GWAED.

86. Cais fflwr ffa a mêl, a melyn wïau, a gwna deisen, a chras ar faen yr aelwyd, dan badell a marwor am y badell, a dod beth o'r deison i'r claf i fwytta'n fynych.

I DDIANC RHAG GELYNION.

$ 87. O bydd un yn myned i lu, ceisied y dderwen fendigaid a doded yn ei ddillad, ag ef a ddianc rhag ei elynion.

I WNEUTHUR COLMWN.

§ 88. Cais hanner pwys o byg, a chwarter pwys o gŵyr, a hanner pwys o wêr defaid, a phylor maen galis, a berw ynghyd, gan gymysgu yr holl amser fal au cydgyfuner, yna ei roi mewn blwch, neu ei fwrw mewn dwr ai wneuthur yn rhol, a hwn a fydd rhag pob clwyf dyfrllyd, ai ledu ar liain neu ledr maneg tenau.

RHAG Y BLODAU YN STOPPIO AR WRAIG.

§ 89. Cais rhuw a malbwya'n dda, a gwase y sudd mewn gwin neu gwrw cadarn, hidla ef a gad iddo loywi, ac yfed y wraig o hono, ac iach y bydd.

I BERI CLYWED YN DDA.

§ 90 Cais blanhigion ynn ifaine mal maint gwiail, a thorr, a dyro ar y drybedd uwch benn y tân, a derbyn y defnynau a ddel o'r bonau, a chymmer lonaid llwy o fel, a blaen llysiau'r tai, a'r pennau a'r baglau o'r cennin, ac

Р

ychydig o fwstardd paill, a llonaid cragen o saem llysowen, a berw y cwbl ynghyd gan eu cymysgu yn ofalus yr holl amser tra berwont, a dod mewn chwistrell yn glaiar, ai yrru'n y clust ar wlan oenen ddu, ac iach y bydd.

[ocr errors]

RHAG HWYDD YNGWIALEN GWR.

91. Cais ddail y gwynwydd, a berw, a golch yn dda, yna cais ddail y llinhad, a'r malw, a berw mewn llaeth, a dod o beutu'r wialen ar liain manwe.

ARALL.

§ 92. Rhostia wïau yn galed, a thyn y melyn a gwna'n bylor mân, a gwna'n eliw, a gwasg ef drwy gadach lliain, a dod ar y wialen, ag y mae'n dda rhag y gwst mawr a fo mewn asgwrn, a rhag amrafael glefydau eraill.

ARALL.

§ 93. Cais floneg yr Affrig a chennin, a dod yn blasder wrth y wialen, ag iach y bydd. Ti a elli ymarfer a'r plasder hwn gyda'r meddyginiaeth nesaf o'r blaen at hwn, a da fydd hynny.

PLASDER RHAG YR IDDWYF, AG I DYNNU CIG DRWG.

§ 94. Cymmer sydd chwerwyn y twyn a mel wedi ei gymysgu a halen ag aesel, a chymysg yn dda, a dod amcan o flawd rhyg, a berw, a gwna yn blaster, a dod wrth y clwyf, ag arfer y plaster ar ddiod a ddywespwyd ei fod yn dda rhag y gwst mawr hyd onid el yn iach.

RHAG Y CRYD A'R MWYTH POETH.

§ 95. Cymmer werth dwy geiniog o drüag, gwerth ceiniog o saffar, ag ychydig o gorn carw wedi ei radellu'n fan iawn, a dodi am benn ffiolaid dda o ddiod, au cymysgu yn dda, a

yfed dri bore, yna cais wydd yr hafa cochon, dail drysi pêr, a bara cann y gwccw, a brâg, ai wneuthur yn ddiod, ai hyfed dairgwaith neu bedair yn y dydd lwnc syched, ag iach fydd a wnelo hynny.

[ocr errors]

DIOD GARTH.

96. Cymmer werth ceiniog o stwbiwm, a rhadella'n fân fal fflwr, a dod ef ddiwarnod a noswaith yn wlych mewn hanner punt o gwrw iachus, a chlaiara ef, a dyro i'r claf i'w yfed yn wag y bore, wedyn cais chwart o bossel a dyro iddo am benn hanner awr i'w yfed, ar dair gwaith, ag yn ol iddo ei gynhyrfu, gwna dwym drwy ddwr ffynon a dod ynddo ymenyn yn dda a pheth mel, ag yfed ddwywaith neu dair, ag iach a fydd ef.

§

ARALL.

97. Cymmer reol y rhafnwydden, a gwasg eu sudd, a dod dwy lwyaid o hono am benn llwnc syched o frecci cwrw da, ag yf, ac oni chynhyrfa yf lwnc arall o'r brecci heb sydd y grëol, a gwedi iddo weitho cymmer yn fwyd dwym blawd ceirch drwy ddwr ffynon, a mel ag ymenyn ynddo, a bara gwenith drwyddo ynddo, a gwna felly deirgwaith mewn naw diwarnod ag ef a garth o'r corph bob llynnor llygredig, a bydd fyw ar ol hynny naw diwarnod ar fwyd llaeth a bara gwenith drwyddo, a'r twym dwr a blawd a ddywespwyd ail yn ail.

ARALL.

§ 98. Cymmer ddyrnaid o ddail rhos damasg a berw mewn brecci cwrw da, ac yf, a chyfluniaethu fal y dywespwyd eisioes am fwyd tros naw diwarnod.

ARALL.

$ 99. Cymmer fel a sudd greol y rhafnwydden mesur tra mesur, a berw ynghyd ar dan araf, a chadw mewn pottel

« PreviousContinue »