Page images
PDF
EPUB

mewn mortyr, a rho mewn padell ffrio lân, a chyda nhwy wer carw neu fwch, neu lwdn dafad, a rho hefyd amcan o waddod gwin a brann gwenith, a ffria'r cwbl ynghyd, a gwna blaster o hono, a rho yn dwym wrth y lle dolurus, ag felly rho dri neu bedwar plaster, fel y bo achos yn gofyn.

PETHAU DA I'R YMHENNYDD.

§ 361. Ymsawru a mwsg, a chammil, ag yfed gwin yn fesurol, a bwytta dail y geidwad yn fynych, cadw y penn yn wresog, mynych olchi'r dwylaw, rhodio'n fesurol, cysgu'n fesurol, gwrando ychydig gerdd dant yn fynych, gwrandaw cannau tafawd, ymsawru a rhos cochon, golchi'r arleisiau mewn distyll rhos, yfed diod o ddwr wrth fyned i gysgu, darllain ychydig cyn myned i gysgu, bwyd ysgon.

PETHAU DRWG I'R YMHENNYDD.

§ 362. Pob rhyw ymhennydd, glythineb, meddwdod, bwyd yn yr hwyrnos, cysgu llawer yn ol bwyd, awyr lygredig, digofaint, trymder calon, sefyll yn fynych yn bennoeth, bwytta llawer neu ar ffrwst, gormod gwres, gormod gwilad, gormod oerfel, llaeth caws, pob rhyw o gnaù, mynych ymdrochi, wynwyn, garlleg, manswrddan, ymsawru a rhosyn gwynn, gormod godineb, gormod cerdd dafod a thant, darllain gormod, diod gryf cyn myned i gysgu, aflonyddwch ynghwsg, ymprydio rhy fynych, gwlych mynych ar draed.

RHAG LLOSG TAN NEU LYNN BRWD.

$ § 363. Cymmer wynn wi, a rho ar lestr pewtyr, a chymysg gydag ychydig elyf carreg, gan riglo'n dda nys bo megis possel, yna cymmer ddryll o liain teg a gwlych mewn eliw gliwydden neu eliw cnau'r ffawydd, neu ryw liw arall a fo hawddaf ei gael, a rho'r lliain hwnnw ar y llosg, ag arno ef rho'r caws, possel, a'r elyf, a'r gwynn wi ar ei ucha, ag fe dyn allan y poethni, ag a iacha'r clwyf.

MEDDYGINIAETH RHAG Y DADWRDD YN Y PENN, YR HWN SYDD YN RHWYSTRO CLYWED,

§ 364. Cymmer benn garllegyn ai bilio, ag yspigo bump neu chwech twll tua'i ganol ai drochi mewn mêl newydd gloyw, a rho yn dy glust a gwlan du ar ei ôl, a gorwedd bob nos ar yr ystlys arall, a gâd sefyll y garllegyn yn dy glust saith neu wyth niwarnod, ag ef o ddifo ryngen yn y penn, ag a ry'r clywed eilwaith.

RHAG Y FRECH FAWR.

365. Cymmer berllys yr hêl, a thorr, a phwya nhwy yn fân, a rho mewn pot o sentdradoles a dwr ffynon, dod yndo ymenyn a halen, a gwna gawl o honynt, ag yf o hano unwaith neu ddwy yn yr wythnos.

ARALL RHAG YR UN PETH.

§ 366. Cymmer biod dri neu bedwar o honynt, a hollt hwynt a chyllell, a rho mewn crochan distyllydd y pluf a'r perfedd a'r cwbl o honynt, ag a'r dwr distyll, neu'r edlyn a gei o honynt golch y dolur, ag yn amgenach yr wyneb, a'r ddwy feddyginiaeth yma sydd brofedig.

RHAG LLOSG TAN.

§ 367. Cymmer y gliw a dynner o'r llinhad a dod ar y lle llosgedig ag asgell, ag efe a dynn dannau'r tân, ag a iacha'r dolur, gyn decced ag y gwnaeth erioed un feddyginiaeth arall.

RHAG Y GARREG, NEU ATTAL GWNEUTHUR DWR.

§ 368. Cymmer chwart o win gwynn a gwna bossel o hono, a chymmer ymaith y cawslaeth, a rho yn y possel bwys pedwar ceiniogbwys o grafion sebon gwynn, a berw ef, ag yf o hono yn dwyma gellych, a da yw yn wir.

I'R SAWL NI ALLANT WNEUTHUR Dwr.

$ 369. Cymmer garreg fflynt neu gallestren, a rho yn y tân nys bo yn boethloyw, ag a honno twym dy ddiod o gwrw cadarn, ag yf.

I BERI I UN WNEUTHUR DWR.

370. Cymmer y perllys y bedwaredd rann o ddyrnaid, a chymaint a hynny o ffunel cochon, a briwa hwynt yn dda, a dod mewn cwppanaid o hen gwrw, a gwna bossel o hono, ag yf y cwrw, ag efe a wna les iti; profedig yw.

I ATTAL GWAED O ARCHOLL NEWYDD.

§ 371. Cymmer ddail cennin, a phwya hwynt am ben mêl a chann gwenith, a chymysg a maedd yn dda nes bont yn dew, a nad ei fyned yn agos i'r tân, ond i gyd yn oer rho wrth y clwyf.

DWR LLYGAID DA.

§ 372. Cymmer afalau pydron a hidla hwynt drwy ddwr ffynon, a golch dy lygaid ag fe loywa'r golygon, ag a garth o honynt y brynti.

fe

ARALL.

373. Cymmer goprys a rho mewn dwr ffynon, a hidla yn lân, a phan elych i'r gwely taro amrannedd dy lygaid ag ef, a difera beth yn dy lygaid.

RHAG AFIECHYD YN YR YSCEFAIN, A'R AFU, A'R DDWYFRONN.

§ 374. Arfer o fwytta naw gronyn o bubur beunydd, a da yw yn wir.

RHAG POB GWRES A PHOETHDER YN YR WYNEB, BYT FAE EF TAN ST. ANTWN.

§ 375. Cymmer chwart o ddwr cafn y gôf, dyrnaid o ddail y geidwad, dyrnaid o ddail llwyfen neu ei risglyn glas,

ceiniogwerth o elyf, a berw hwynt ynghyd oni dderfydd hanner y dwr, a dod i gadw mewn llestr pridd, ag ira'r wyneb ag ef.

RHAG GWAYW MEWN AELODAU, NEU'R CEFN, NEU'R

YSTLYSAU.

§ 376. Cymmer ddistyll bendigaid, neu ddistyll gwin, ag eliw traed defaid, a dod mewn llestr pridd, au claiaru au cymysg ynghyd yn dda, ag ira'r lle cystuddiedig, gan roi digon o ddillad yn gynnes ar y dyn.

MEDDYGINIAETH BROFEDIG RHAG GWAYW.

§ 377. Pwya berllys yr hêl, a rho mewn distyll bendigaid neu ddistyll gwin, a hidla drwy wasg, a dod floneg baedd yn doddedig am ei benn, a chymysg yn dda, ag a hwnn yn dwym ira'r lle dolurus.

RHAG GWAYW NEU HWYDD YN Y GLINIAU.

378. Cymmer chwart o win sêg, a dyrnaid o'r gryw a elwir teim gan eraill, a berw ynghyd, a phan fo hanner berw dod ynddynt ymenyn newydd a berw eilwaith ynghyd o chwart i beint, a phan elych i'r gwely golch dy draed yn dda ag ef, a gwlych liain tri dyblyg neu bedwar yndo, a rho ef o beutu'th liniau dolurus yn boetha byth y gellych ei oddef dros chwech neu saith o nosweithi, ag efe a wna les mawr yn ddilys, os bydd distyll gwin neu ddistyll bendigaid dod lwyaid am benn hwnn yn ei ferw pan fo ar fod yn ddigon, a chymysg yn dda.

I ATTAL GWAED O ARCHOLL, NEU O DRWYN,

§ 379. Cymmer hen liain a gwlych yn dda mewn aesel gwin coch, neu o eisiau hwnnw yn yr aesel a fo, yna llosg yn bylor a rho hwnnw ar yr archoll, ag fe attal y gwaed ar

frys, os o'r trwyn y bydd y gwaedu hwŷth i fynu i'r ffroenau y pylor hwn drwy asgell.

PLASTER I DDOLUR, NEU FRIW, NEU HWYDD NI BO

AEDDFED.

§ 380. Cymmer flawd a berw ef mewn llaeth buwch newydd odro, nys bo cyndewed ag iwd, a rho mewn padell gydag amcan o wer llwdn dafad, a berwa nhwy yn dda, au cymysg yn dda, ag felly gwna'n blaster a dod ar y dolur yn boetha byth ag y gellir ei oddef.

RHAG DANT CI.

$ 381. Cais

[ocr errors]

ddiwid fendigaid, a garlleg, a gwyn wi, a gwna yn blaster, a dod wrtho, ag iach y bydd.

I AEDDFEDU CORNWYDON.

§ 382. Cymmer beint o laeth crai a dod ar y tân, a rho yndo amcan o fraster llwdn dafad gwedi ei friwo, dyrnaid o flawd ceirch, a chur a maedd yn dda tra berwo, a gad ferwi nes bo'n dew fal y gellech ei osod ar liain glan, a rho yn dwym wrth y dolur, a phan dorro dod ychydig o dwrpant ar ledr gwynn, ai bigo'n llawn tyllau.

RHAG BYDDARWCH CLUSTIAU.

$ 383. Cymmer sudd y cennin a bustl gafr ynghyd, a chymysga'n dda, a bwrw yn y clustiau, a rho wlan yn ei ôl.

RHAG TYWYLLWCH LLYGAID.

§ 384. Cymmer had y melynllys drwy wlith y bore, a mortyra'n ffest, a hidl y sudd yn llwyr, a chymysg a mêl gloyw gymaint tra chymaint, a berw yn ffest hyd nys el dan of draian, a dod mewn llestr gwydr, a rho ar dy lygaid pan fo raid.

« PreviousContinue »